Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Sgipio cynnwys

Yr hyn y gallwch ei gael

Efallai y gallwch gael naill ai Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth neu Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, neu’r ddau.

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Gallwch gymryd absenoldeb o 2 wythnos o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth ar gyfer pob plentyn sydd wedi marw neu a oedd yn farw-anedig os ydych yn gymwys.

Gallwch gymryd:

  • 2 wythnos gyda’i gilydd
  • 2 wythnos o absenoldeb ar wahân
  • un wythnos o absenoldeb yn unig

Wythnos yw union nifer y diwrnodau yr ydych fel arfer yn gweithio mewn wythnos.

Enghraifft Byddai wythnos o Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth yn 2 ddiwrnod os ydych yn gweithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth yn unig.

Mae’r absenoldeb:

  • yn gallu dechrau ar ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, neu ar ôl hynny
  • yn gorfod dod i ben cyn pen 56 wythnos i ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth

Cymryd absenoldeb gyda mathau eraill o absenoldeb statudol

Os ydych yn cymryd math arall o absenoldeb statudol (er enghraifft, absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb tadolaeth) pan mae’r plentyn yn marw neu pan mae marw-enedigaeth yn digwydd, mae’n rhaid i’ch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth ddechrau ar ôl i’r absenoldeb arall ddod i ben, ond does dim rhaid ei gymryd yn union ar ôl hynny. Mae hyn yn cynnwys os yw’r absenoldeb statudol ar gyfer plentyn arall.

Os yw dechrau math arall o absenoldeb statudol yn torri ar draws eich Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth, gallwch gymryd eich hawl i Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth sy’n weddill ar ôl i’r absenoldeb arall hwnnw ddod i ben.

Er hynny, rydych yn dal i orfod cymryd eich Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth sy’n weddill cyn pen 56 wythnos i ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth.

Gallwch gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth rhwng cyfnodau o absenoldeb ar y cyd i rieni a drefnwyd gennych cyn i’r plentyn farw. Mae hyn yn cynnwys os yw’r absenoldeb ar y cyd i rieni ar gyfer plentyn arall.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Byddwch yn gallu cael naill ai £184.03 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf) os ydych yn gymwys.

Mae unrhyw arian a gewch yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch cyflog, er enghraifft yn wythnosol neu’n fisol, ynghyd â didyniadau ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol.