Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Sgipio cynnwys

Canslo’ch absenoldeb neu’ch tâl

Gallwch newid eich meddwl a chanslo’ch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth neu’ch Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth os ydych wedi rhoi mwy na’r rhybudd angenrheidiol i’ch cyflogwr ynghylch naill ai gymryd absenoldeb neu hawlio tâl.

Er mwyn canslo’ch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth neu’ch Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr. Mae pennu pryd y mae angen i chi rhoi gwybod iddo yn dibynnu ar ba bryd y mae disgwyl i’ch absenoldeb neu’ch tâl ddechrau.

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Os yw’ch absenoldeb i fod i ddechrau cyn pen 8 wythnos i’r farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr am y canslo – a hynny heb fod yn hwyrach na’r amser y byddech fel arfer yn dechrau’r gwaith ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb a gynlluniwyd.

Os yw’ch absenoldeb i fod i ddechrau 9 wythnos neu’n hwyrach ar ôl y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ddim hwyrach nag un wythnos cyn dechrau’r absenoldeb a gynlluniwyd.

Os ydych yn canslo’ch absenoldeb, gallwch ei aildrefnu os rhowch y rhybudd cywir i’ch cyflogwr.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Os oedd eich tâl i fod i ddechrau cyn pen 8 wythnos i farwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos rydych am ei chanslo.

Os oedd eich tâl i fod i ddechrau 9 wythnos neu’n hwyrach ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr eich bod yn dymuno’i ganslo un wythnos cyn bod eich tâl i fod i ddechrau.