Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Sut i hawlio
Mae gennych 56 wythnos i gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth neu i hawlio Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth drwy eich cyflogwr. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad marwolaeth y plentyn.
Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth
Gallwch gymryd 2 wythnos o absenoldeb ar un tro neu gallwch eu cymryd dros ddwy wythnos ar wahân.
Rhennir y 56 wythnos yn 2 gyfnod:
- o ddyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn hyd at 8 wythnos ar ôl hynny
- 9 i 56 wythnos ar ôl dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
Rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr cyn i chi gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth. Mae faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi yn dibynnu ar ba bryd rydych yn cymryd yr absenoldeb.
0 i 8 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr cyn y byddech fel arfer yn dechrau’r gwaith ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos neu’r wythnosau yr ydych yn dymuno eu cymryd o’r gwaith.
9 i 56 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf un wythnos o rybudd i’ch cyflogwr cyn dechrau’r wythnos neu’r wythnosau yr ydych yn dymuno eu cymryd i ffwrdd o’r gwaith.
Rhoi rhybudd i’ch cyflogwr
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr am y canlynol:
- dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
- pryd yr hoffech i’ch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth ddechrau
- faint o absenoldeb rydych yn ei gymryd – naill ai 1 neu 2 wythnos
Gallwch siarad â’ch cyflogwr dros y ffôn, gadael lleisbost, anfon neges testun neu e-bost. Does dim rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig iddo (er enghraifft drwy ffurflen neu lythyr).
Does dim angen i chi roi tystiolaeth o farwolaeth neu farw-enedigaeth.
Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Rhaid i chi ofyn am Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth cyn pen 28 diwrnod, gan ddechrau o ddiwrnod cyntaf yr wythnos yr ydych yn hawlio’r taliad amdani.
Bob tro y byddwch yn hawlio, rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig (er enghraifft llythyr, e-bost neu ffurflen):
- eich enw
- dyddiadau’r cyfnod rydych am hawlio Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
- dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
Bydd angen i chi hefyd roi ‘datganiad’ i’ch cyflogwr i gadarnhau eich bod yn gymwys oherwydd eich perthynas â’r plentyn neu’r baban. Dim ond unwaith y mae’n rhaid i chi lenwi hwn, pan fyddwch yn gofyn am dâl y tro cyntaf.
Llenwi’r datganiad
Gallwch wneud y canlynol:
- llenwi’r ffurflen datganiad ar-lein – mae hyn yn cymryd 5 munud
- datgan yn ysgrifenedig eich bod yn gymwys oherwydd eich perthynas â’r plentyn neu’r baban
- defnyddio ffurflen eich cyflogwr ei hun os oes un ganddo
Unwaith y byddwch wedi llenwi’ch datganiad, bydd angen i chi ei anfon at eich cyflogwr. Bydd eich cyflogwr wedyn yn gwirio’ch gwybodaeth a’ch cymhwystra.