Anghytuno â phenderfyniad treth neu gosb
Esgusodion rhesymol
Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol os ydych:
- yn dymuno herio rhai cosbau, er enghraifft cosbau am anfon Ffurflen Dreth neu daliad yn hwyr
- yn methu dyddiad cau, er enghraifft bod yn hwyr i dderbyn y cynnig o adolygiad neu i apelio yn erbyn penderfyniad
Yr hyn a all gyfrif fel esgus rhesymol
Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth am reswm dilys, er enghraifft:
- bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu wneud taliad
- bu’n rhaid i chi aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, a gwnaeth hynny eich atal rhag delio â’ch materion treth
- roedd gennych salwch difrifol neu salwch a oedd yn bygwth eich bywyd
- methodd eich cyfrifiadur neu’ch meddalwedd tra oeddech yn paratoi’ch Ffurflen Dreth ar-lein
- roedd problemau â gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF)
- gwnaeth tân, llifogydd neu ladrad eich atal rhag llenwi’ch Ffurflen Dreth
- roedd oedi gyda’r post na allech fod wedi’i ragweld
- roedd oedi yn ymwneud ag anabledd neu salwch meddwl sydd gennych
- nid oeddech yn ymwybodol o’ch ymrwymiad cyfreithiol neu roeddech wedi’i gamddeall
- roeddech yn dibynnu ar rywun arall (yn agor tudalen Saesneg) i anfon eich Ffurflen Dreth atom, ac ni wnaeth hynny
Mae’n rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth neu’ch taliad cyn gynted ag y gallwch.
Yr hyn na fydd yn cael ei gyfrif fel esgus rhesymol
Ni fydd y canlynol yn cael eu derbyn fel esgusodion rhesymol:
- gwrthodwyd eich siec neu methodd eich taliad gan nad oedd gennych ddigon o arian
- gwnaethoch ei chael hi’n rhy anodd defnyddio system ar-lein CThEF
- ni chawsoch nodyn atgoffa gan CThEF
- gwnaethoch gamgymeriad yn eich Ffurflen Dreth