Dod o hyd i help

Gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych ymholiad am benderfyniad treth neu gosb.

Os nad ydych yn deall y penderfyniad, gallwch hefyd gael cyngor gan CThEF neu help proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd eich amgylchiadau personol, gallwch gael help gan CThEF.

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd mae CThEF wedi delio â’ch materion treth, gallwch wneud cwyn.