Cael adolygiad

Gallwch gael penderfyniad treth neu gosb wedi’i adolygu gan rywun o dîm gwahanol nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol (‘swyddog adolygu’). Yr enw ar hyn yw ‘adolygiad statudol’.

Ar gyfer penderfyniadau a chosbau treth uniongyrchol, mae’n rhaid i chi apelio ar Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn gyntaf cyn y gallwch gael adolygiad.

Ar gyfer penderfyniadau a chosbau treth anuniongyrchol, bydd CThEF yn cynnig adolygiad i chi wrth anfon ei benderfyniad neu gosb atoch.

Faint o amser y mae adolygiad yn ei gymryd

Fel arfer, mae adolygiadau’n cymryd 45 diwrnod – bydd y swyddog adolygu yn cysylltu â chi os bydd yn cymryd yn hirach.

Yr hyn i’w gynnwys

Pan fyddwch yn gofyn am adolygiad neu’n derbyn y cynnig, mae’n helpu i roi gwybod i CThEF am y canlynol:

  • eich enw
  • eich cyfeirnod, er enghraifft eich rhif cofrestru TAW (VRN)
  • pam rydych chi’n anghytuno

Ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau

Pan fydd y swyddog adolygu wedi cwblhau’r adolygiad, bydd yn ysgrifennu atoch i naill ai:

  • ategu’r penderfyniad (mae’r penderfyniad gwreiddiol heb ei newid)
  • newid y penderfyniad (mae’r penderfyniad gwreiddiol wedi’i newid)
  • canslo’r penderfyniad

Os bydd swyddog adolygu’n ategu neu’n newid y penderfyniad a’ch bod yn cytuno â’r canlyniad, bydd angen i chi dalu unrhyw swm sydd arnoch.

Os bydd CThEF yn canslo ei benderfyniad ar ôl yr adolygiad, does dim angen i chi wneud dim byd.

Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad, gallwch apelio ar y tribiwnlys treth. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar y llythyr ynghylch canlyniad yr adolygiad.

Gallwch hefyd ystyried dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR), ond mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys treth yn gyntaf.