Cofrestru y farwolaeth

Ar ôl i rywun farw, bydd archwilydd meddygol yn gwirio achos y farwolaeth i wneud yn siŵr ei fod yn gywir.

Byddant yn uwch feddyg ac ni fyddant wedi bod yn gysylltiedig â gofalu am yr unigolyn sydd wedi marw.

Yna bydd swyddfa’r archwilydd meddygol y cysylltu â chi i:

  • egluro achos y farwolaeth
  • ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hyn neu’r gofal iechyd a roddwyd i’r unigolyn cyn iddynt farw

ond nid oes rhaid i chi siarad â nhw os nad ydych eisiau gwneud hynny.  

Cofrestru’r farwolaeth

Bydd swyddfa’r archwilydd meddygol hefyd yn cysylltu â chi i gadarnhau y gallwch gofrestru’r farwolaeth.

Cofrestrwch y farwolaeth o fewn 5 diwrnod (8 diwrnod yn yr Alban) i’r swyddfa gysylltu â chi. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Ar ôl i chi gofrestru’r farwolaeth

Byddwch yn cael tystysgrif claddu neu amlosgi (a elwir yn aml yn ‘green form’).

Rhowch y dystysgrif i’ch trefnydd angladdau, amlosgfa neu awdurdod claddu. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn y gellir cynnal yr angladd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).