Beth i'w wneud ar ôl i rywun farw
Trefnu yr angladd
Fel arfer dim ond ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru y gellir cynnal yr angladd oni bai bod y farwolaeth wedi’i riportio i grwner.
Gallwch dalu i drefnydd angladdau drefnu’r angladd neu ei wneud eich hun.
Dylech wirio a oedd yr unigolyn a fu farw wedi gwneud trefniadau ar gyfer ei angladd - gallai hyn gynnwys cynlluniau angladd rhagdaledig neu yswiriant bywyd. Gallwch wirio hyn gyda threfnwyr angladdau lleol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Trefnwyr angladdau
Bydd trefnydd angladdau yn darparu cyngor a chymorth pan fyddwch yn trefnu angladd.
Os ydych yn llogi trefnydd angladdau, gallwch ddewis trefnydd angladdau sy’n aelod o:
- National Association of Funeral Directors
- The National Society of Allied and Independent Funeral Directors (SAIF)
Mae gan y sefydliadau hyn godau ymarfer - dylent roi rhestr o brisiau i chi pan fyddwch yn dewis eu gwasanaethau.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld os oes ganddynt eu gwasanaeth angladdau eu hunain. Mae rhai cynghorau lleol yn gwneud hyn ochr yn ochr â threfnwyr angladdau lleol, er enghraifft, ar gyfer claddedigaethau digrefydd.
Mae’r British Humanist Association a Institute of Civil Funerals hefyd yn gallu helpu gydag angladdau digrefydd.
Trefnu’r angladd eich hun
Gallwch ddewis trefnu angladd eich hun.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am:
- brynu plotiau claddu
- cysylltu â gwasanaethau amlosgi
- costau angladdau
Amlosgiadau
Mae yna ffurflenni gwahanol i chi eu llenwi gan ddibynnu ar lle digwyddodd y farwolaeth.
Cysylltwch â’ch cyngor neu amlosgfa leol os oes arnoch angen cymorth gyda’ch cais.
Costau angladd
Gall costau angladd gynnwys:
- ffioedd trefnydd angladdau
- pethau y mae’r trefnydd angladdau yn talu amdanynt ar eich rhan (a elwir yn ‘alldaliadau’ neu ‘gostau trydydd parti’), er enghraifft yr unigolyn fydd yn cynnal y gwasanaeth angladd, ffioedd yr amlosgfa neu fynwent neu gyhoeddiad papur newydd am y farwolaeth
- ffioedd claddu neu amlosgi awdurdodau lleol
Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i drefnwyr angladdau gyhoeddi rhestr brisiau ar gyfer y gwasanaethau a’r cynnyrch cyffredinol maent yn cynnig
Mae gan MoneyHelper wybodaeth am gostau angladd a sut i’w lleihau.
Talu am angladd
Gellir talu am yr angladd:
- o gynllun ariannol roedd gan yr unigolyn, er enghraifft, cynllun angladd neu bolisi yswiriant wedi’i dalu ymlaen llaw
- gennych chi, neu aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau
- gydag arian o ystad yr unigolyn (cynilion, er enghraifft) - gelwir cael mynediad at hyn yn gwneud cais am ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir weithiau’n ‘gwneud cais am brofiant’)
Gallwch wneud cais am Daliad Costau Angladd os ydych yn cael anhawster talu am yr angladd.
Yn Lloegr, gall Children’s Funeral Fund for England helpu i dalu am rai o gostau angladd ar gyfer plentyn dan 18 oed neu baban marw-anedig ar ôl 24 wythnos y beichiogrwydd.
Symud corff ar gyfer angladd dramor
Rydych angen caniatâd gan grwner i symud corff ar gyfer angladd dramor. Rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os yw crwner yn ymchwilio i’r farwolaeth.
Gwnewch gais o leiaf 4 diwrnod cyn eich bod am i’r corff gael ei symud.
Dewch o hyd i grwner lleol gan ddefnyddio Coroners’ Society of England and Wales website.
Mae yna broses wahanol ar gyfer: