Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Trosolwg
Gallech gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os aethoch yn sâl neu’n anabl oherwydd damwain neu glefyd naill ai:
- yn y gwaith
- ar gynllun neu gwrs hyfforddiant cyflogaeth cymeradwy
Mae’r swm y gallech ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Efallai y gall eich gofalwr gael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofalu sylweddol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.