Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi lenwi ac anfon ffurflen gais.
Daw’r ffurflen gyda nodiadau sy’n:
- eich helpu i’w lenwi
- dweud wrthych ble i’w anfon
Lawrlwytho ac argraffu ffurflen gais
Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen wahanol yn dibynnu a ydych yn hawlio am:
- ddamweiniau a achosir gan waith (ffurflen BI100A)
- clefydau a achosir gan waith (ffurflen BI100PD)
Lawrlwythwch ac argraffwch y ffurflen gais briodol
Gofyn am ffurflen gais dros y ffôn
Gallwch hefyd ofyn i Ganolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol Barnsley (IIDB) anfon ffurflen gais atoch.
Canolfan IIDB Barnsley
Ffôn: 0800 121 8379
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am daliadau galwadau
Fformatau amgen
Ffoniwch i ofyn am fformatau amgen, fel braille, print bras neu CD sain.
Ar ôl i chi anfon eich ffurflen
Bydd eich cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir yn eich ffurflen gais, neu mewn asesiad meddygol wyneb yn wyneb.
Bydd y Ganolfan Asesiadau Iechyd ac Anabledd (CHDA) yn cysylltu â chi os oes angen asesiad meddygol wyneb yn wyneb arnoch. Byddant yn anfon gwybodaeth atoch am yr hyn i’w ddisgwyl yn yr apwyntiad. Darllenwch y canllawiau ar sut i fynychu eich asesiad wyneb yn wyneb yn ddiogel oherwydd coronafeirws (COVID-19).
Ni fydd angen i chi fynychu asesiad wyneb yn wyneb os ydych yn derfynol wael neu os oes gennych unrhyw un o’r clefydau canlynol:
- mesothelioma ymledol
- angiosarcoma o’r iau oherwydd amlygiad i finyl clorid monomer
- carsinoma sylfaenol y broncws neu’r ysgyfaint drwy ddod i gysylltiad â llosgi bwriadol
- carsinoma sylfaenol y broncws neu’r ysgyfaint drwy ddod i gysylltiad â chyfansoddion Nickel/Nickel
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint lle ceir tystiolaeth ategol o asbestosis
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint, drwy ddod i gysylltiad ag asbestos
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint, wedi’i gysylltu â thun a chemegau penodedig eraill neu’n gweithio gyda ffwrn coke
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint lle ceir silicosis sy’n cyd-fynd ag ef
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich hawliad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyried gorfodol’.