Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn byw gyda rhywun arall
Fel arfer, byddwch yn cael Budd-dal Plant am 8 wythnos ar ôl i’ch plentyn fynd i fyw gyda rhywun arall (e.e. ffrind neu berthynas), os nad yw rhywun arall yn gwneud hawliad. Gall barhau’n hirach os ydych yn cyfrannu at gostau cynnal y plentyn.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi gwybod i chi os byddant yn cael hawliad arall ar gyfer eich plentyn. Byddant yn eich helpu i benderfynu pwy ddylai hawlio os na allwch benderfynu dros eich hun.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyfraniadau at gostau cynnal
Gallech barhau i gael taliadau am fwy nag 8 wythnos os ydych yn cyfrannu’r un faint neu fwy na’r taliadau Budd-dal Plant tuag at gostau cynnal eich plentyn.
Mae costau cynnal yn cynnwys costau ar gyfer dillad, anrhegion, bwyd ac arian poced ynghyd â chyfraniadau ariannol i roi rhywle i’ch plentyn fyw.
Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant os yw’ch amgylchiadau wedi newid.
Gallwch wneud cyfraniadau’n wythnosol, yn fisol neu ar ffurf cyfandaliad er mwyn cwmpasu cyfnod penodol. Os ydych yn methu un taliad neu ddau dros gyfnod hir, mae’n bosibl y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn trin hyn fel petaech wedi cyfrannu am y cyfnod cyfan.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn trin cyfraniadau ar gyfer mwy nag un plentyn fel cyfraniad sy’n cael ei rannu’n gyfartal, oni bai eich bod yn gofyn iddynt ystyried rhywbeth arall.
Bydd eich cyfraniadau yn cael eu cyfrif o hyd os oes mwy nag un person yn cyfrannu at yr un plentyn. Mae’n rhaid i gyfanswm y cyfraniadau fod o leiaf gwerth swm y Budd-dal Plant yr ydych yn ei gael.
Gorchmynion Llys a chytundebau
Mae’n bosibl y byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant os ydych yn gwneud taliadau tuag at gostau cynnal eich plentyn dan Orchymyn Llys neu gytundeb.
Caiff y taliadau hyn eu hystyried fel cyfraniad at gynhaliaeth eich plentyn – cyn belled â bod y gorchymyn neu’r cytundeb yn cwmpasu costau cynnal eich plentyn.
Newid pwy sy’n cael Budd-dal Plant
Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn. Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os hoffech i rywun arall hawlio Budd-dal Plant.
-
Esboniwch eich bod am roi’r gorau i gael Budd-dal Plant.
-
Esboniwch pwy hoffech gael y Budd-dal Plant yn lle.
-
Dywedwch wrth y person arall i wneud hawliad newydd.
-
Os ydych yn newid eich meddwl yn nes ymlaen, bydd angen i chi wneud cais newydd am hawliad eich hun.
Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth os yw’ch incwm unigol chi neu’ch partner dros £60,000.
Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn Saesneg) i gyfrifo faint o Fudd-dal Plant a gawsoch mewn blwyddyn dreth ac i ddysgu os oes angen i chi dalu’r tâl.