Cymhwysedd

Mae’r dyddiad y cafodd eich cerbyd ei adeiladu neu ei gofrestru’n gyntaf yn effeithio ar p’un a oes angen:

  • cael MOT

  • talu treth cerbyd 

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cerbydau nad oes angen MOT arnynt

Nid oes angen ichi gael MOT os:

  • cafodd y cerbyd ei adeiladu neu ei gofrestru’n gyntaf dros 40 mlynedd yn ôl  

  • na wnaed ‘newidiadau sylweddol’ i’r cerbyd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, er enghraifft disodli’r siasi, y corff, yr echelau neu’r injan i newid y ffordd y mae’r cerbyd yn gweithio 

Os nad ydych yn siŵr a fu unrhyw newidiadau sylweddol, gallwch:

Cerbydau wedi’u heithrio rhag treth cerbyd

Os adeiladwyd eich cerbyd cyn 1 Ionawr 1984, gallwch roi’r gorau i dalu treth cerbyd o 1 Ebrill 2024.

Os nad ydych yn gwybod pryd y cafodd eich cerbyd ei adeiladu, ond cafodd ei gofrestru cyn 8 Ionawr 1984, nid oes angen ichi dalu treth cerbyd o 1 Ebrill 2024.

Beth sydd rhaid ichi ei wneud

Mae’n rhaid ichi wneud cais am eithriad treth cerbyd i roi’r gorau i dalu treth cerbyd. Weithiau gelwir hyn yn rhoi cerbyd yn y ‘dosbarth treth hanesyddol’.

Nid oes rhaid ichi wneud cais i roi’r gorau i gael MOT ar gyfer eich cerbyd bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid ichi ei gadw mewn cyflwr sy’n addas i’r ffordd.

Gallwch gael dirwy o hyd at £2,500 a chael 3 phwynt cosb am ddefnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus.