Cerbydau hanesyddol (clasurol): MOT a threth cerbyd

Skip contents

Eithriad rhag talu treth ar gyfer cerbydau hanesyddol

Gallwch wneud cais i roi’r gorau i dalu am dreth cerbyd o 1 Ebrill 2024 os adeiladwyd eich cerbyd cyn 1 Ionawr 1984. Rhaid ichi drethu eich cerbyd hyd yn oed os nad oes rhaid ichi ei thalu.

Os nad ydych yn gwybod pryd y cafodd eich cerbyd ei adeiladu, ond cafodd ei gofrestru’n gyntaf cyn 8 Ionawr 1984, gallwch wneud cais o hyd i roi’r gorau i dalu treth cerbyd.

Ni fydd eich cerbyd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd os:

  • yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio neu dâl (er enghraifft, fe’i defnyddir fel tacsi ar gyfer cwsmeriaid sy’n talu)

  • yw’n cael ei ddefnyddio’n fasnachol ar gyfer masnach neu fusnes

Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr a yw’ch cerbyd wedi’i eithrio.

Cerbydau cymwys

Gallwch wneud cais i’r cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • ceir

  • faniau

  • beiciau modur

  • beiciau modur tair olwyn

Cerbydau mawr a bysiau

Gallwch wneud cais i’r cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • cerbydau nwyddau trwm preifat - ni ellir eu dylunio na’u haddasu ar gyfer cludo nwyddau, na chael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant gyrwyr

  • bysiau a ddefnyddir at ddibenion gwirfoddol neu gymunedol

Cerbydau arbenigol

Gallwch hefyd wneud cais i’r cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • craeniau a phympiau symudol

  • rholeri ffyrdd, tryciau gwaith a pheiriannau cloddio

  • peiriannau amaethyddol a pheiriannau torri gwair

  • erydr eira a pheiriannau graeanu

  • cerbydau trydan

  • cerbydau ager