Cerbydau hanesyddol (clasurol): MOT a threth cerbyd

Skip contents

Adnewyddu treth cerbyd eich cerbyd hanesyddol

Bydd DVLA yn anfon llythyr atgoffa treth cerbyd atoch cyn i’ch treth ddod i ben. Bydd angen ichi drethu eich cerbyd, ond ni fydd angen ichi dalu.

Mae’n anghyfreithlon gyrru eich cerbyd os nad ydych wedi’i drethu. Gallwch gael dirwy o £80 os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd ar amser.