Cerbydau hanesyddol (clasurol): MOT a threth cerbyd

Skip contents

Gwneud cais am eithriad treth cerbyd

Gwnewch gais mewn Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd.

Bydd angen ichi gymryd:

  • y llyfr log (V5CW) yn eich enw

  • eich llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W), os oes gennych un

  • tystiolaeth o MOT cyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu eich tystysgrif MOT, os oes gennych un

  • tystiolaeth os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio rhag cael MOT (V112W)

Os nad oes gennych y llyfr log, lawrlwythwch a llenwch gais am lyfr log (V62W). Ewch ag ef i Swyddfa’r Post gyda’r ffi o £25.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon 

Bydd angen ichi gymryd:

  • tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau

  • tystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant

Beth sy’n digwydd nesaf

  1. Mae Swyddfa’r Post yn anfon eich llyfr log i DVLA.

  2. Bydd DVLA yn anfon llyfr log wedi’i ddiweddaru atoch.

  3. Byddwch yn cael ad-daliad (os yw’n ddyledus ichi). Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi cael eich ad-daliad o fewn 6 wythnos o gael eich llyfr log wedi’i ddiweddaru.

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.