Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth
Cael ad-daliad am ffioedd tribiwnlys
Gallwch gael ad-daliad os wnaethoch dalu ffioedd mewn Tribiwnlys Cyflogaeth neu Dribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth rhwng 29 Gorffennaf 2013 a 26 Gorffennaf 2017.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais ar-lein:
- os nad ydych wedi newid eich enw ers i chi gyflwyno’r hawliad i’r tribiwnlys
- roedd eich hawliad yn erbyn un cyflogwr
- mae gennych gyfrif banc yn y DU
Fel arall, gallwch wneud cais drwy’r post neu drwy e-bost.
Bydd rhaid i chi nodi faint oedd swm y ffioedd tribiwnlys wnaethoch chi eu talu.
Gwneud cais ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth i wneud cais am ad-daliad ar-lein.
Gwneud cais drwy e-bost neu drwy’r post
Bydd y math o ffurflen y bydd angen i chi ei defnyddio yn dibynnu ar pam wnaethoch chi dalu’r ffioedd.
Defnyddiwch ffurflen 1/2-CR os:
- wnaethoch chi’r hawliad ar ben eich hun a chi dalodd y ffioedd
- cafodd hawliad ei wneud yn eich erbyn a chawsoch eich gorchymyn i dalu ffioedd rhywun arall, neu os wnaethoch chi dalu unrhyw ffioedd eraill i’r tribiwnlys
- chi oedd y ‘prif hawlydd’ mewn hawliad ar y cyd (‘lluosog’) ar gyfer llai na 11 o bobl
Defnyddiwch ffurflen 3-S os:
- wnaethoch chi dalu’r ffioedd er mwyn i rywun arall wneud yr hawliad
- chi oedd y ‘prif hawlydd’ mewn hawliad ar y cyd (‘lluosog’) ar gyfer mwy na 10 o bobl.
Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi drwy’r post neu drwy e-bost i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF).
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Cymru a Lloegr
etrefunds@justice.gov.uk
Tribiwnlys Cyflogaeth - Cymru a Lloegr
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
PO Box 10218
Leicester
LE1 8EG
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Yr Alban
glasgowet@justice.gov.uk
Tribiwnlys Cyflogaeth - Yr Alban
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR
Cael cymorth i wneud cais
Cysylltwch â GLlTEF os ydych angen help neu os oes gennych gwestiynau am ad-daliadau.
GLlTEF - Cymru a Lloegr
Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: : 0300 323 0196
GLlTEF - Llinell Iaith Gymraeg
Rhif ffôn: 0300 303 5176
GLlTEF - Yr Alban
Rhif ffôn: 0300 790 6234
Beth fydd yn digwydd nesaf
Os oes gennych hawl i gael ad-daliad, bydd yn cael ei drosglwyddo i’ch cyfrif banc (gyda 0.5% llog hefyd). Byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau’r swm.