Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth
Gwneud hawliad
Gallwch wneud hawliad:
- ar gyfer chi eich hun, fel yr unig unigolyn sy’n gwneud yr hawliad
- ar gyfer chi eich hun ac eraill sydd wedi’u trin yn yr un ffordd
- ar gyfer rhywun arall, os ydych yn gweithredu fel eu cynrychiolydd
Gan amlaf bydd rhaid i chi wneud hawliad i’r tribiwnlys o fewn 3 mis o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben, neu’r dyddiad pan ddigwyddodd y broblem.
Gan amlaf byddwch angen tystysgrif cymodi cynnar ar gyfer pob atebydd cyn i chi wneud hawliad. Mae’r rhain ar gael gan Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd a allai effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn gwrandawiad, gallwch hysbysu’r tribiwnlys y byddwch angen addasiadau rhesymol. Dywedwch wrth y tribiwnlys os ydych angen i addasiadau gael eu gwneud ar eich cyfer pan fyddwch yn gwneud eich hawliad neu ar unrhyw adeg yn ystod y broses gwneud hawliad.
Dylech hefyd ddarllen yr arweiniad ar chwythu’r chwiban os yw’n berthnasol i’ch hawliad.
Y gost
Nid oes rhaid i chi dalu ffi i wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.
Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi dalu costau eraill, er enghraifft:
- costau tystion
- costau’r bobl neu’r sefydliadau rydych yn gwneud hawliad yn eu herbyn (yr ‘atebwyr’) os bydd y tribiwnlys yn penderfynu eich bod wedi ymddwyn mewn modd afresymol
Gwneud hawliad ar-lein
Cyn i chi ddechrau, byddwch angen:
- enwau a chyfeiriadau pawb sy’n gwneud yr hawliad (yr ‘hawlwyr’)
- enwau a chyfeiriadau’r atebwyr – gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn eich llythyr cynnig swydd, eich contract cyflogaeth neu eich slipiau cyflog
- rhifau eich tystysgrifau cymodi cynnar Acas
Os ydych eisoes wedi cychwyn hawliad
Gallwch ddychwelyd i hawliad sy’n bodoli’n barod i barhau â’ch cais neu i weld yr hawliadau rydych wedi’u cyflwyno’n barod.
Gwneud hawliad drwy’r post
Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi ffurflen hawlio.
Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi i un o’r cyfeiriadau canlynol, yn ddibynnol ar lle oeddech chi’n gweithio.
Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr)
PO Box 10218
Leicester
LE1 8EG
Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Yr Alban)
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR
Os oes arnoch angen cymorth i wneud cais
Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o gymorth sydd ei angen arnoch.
Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cymorth am sut i wneud hawliad
Ffoniwch canolfan gyswllt cwsmeriaid y tribiwnys cyflogaeth.
Canolfan gyswllt cwsmeriaid y tribiwnys cyflogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am – 5pm, dydd Gwener 9am – 4.30pm
Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: 0300 323 0196
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0300 323 0196
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Canolfan gyswllt cwsmeriaid y tribiwnys cyflogaeth ar gyfer yr Alban
Rhif ffôn: 0300 790 6234
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0300 790 6234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau’r banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau