Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth
Mynd i wrandawiad tribiwnlys
Gan amlaf, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad ac amser eich gwrandawiad.
Fel arfer cynhelir gwrandawiadau yn y swyddfa tribiwnlys cyflogaeth sydd agosaf at lle roeddech yn gweithio. Bydd y tribiwnlys yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych os bydd eich gwrandawiad yn digwydd dros y ffôn, drwy fideo neu wyneb yn wyneb.
Rhaid i chi ddod â’r holl ddogfennau rydych am eu defnyddio i gefnogi eich achos gyda chi. Os yw eich gwrandawiad yn un wyneb yn wyneb, gallwch ddod â chydweithiwr neu rywun arall gyda chi os dymunwch wneud hynny. Gallwch hefyd gael rhywun i’ch cefnogi mewn gwrandawiad o bell.
Os ydych chi, eich tyst neu eich cynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath os dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Ni fydd y tribiwnlys yn talu costau teithio i wrandawiad.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Byddwch yn cyflwyno’ch achos i’r tribiwnlys - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, er enghraifft, cyfreithiwr, ffrind neu aelod o’ch teulu. Bydd yr atebydd yn cyflwyno eu hachos yn eich erbyn.
Fel arfer, chi fydd yn rhoi tystiolaeth gyntaf, oni bai bod eich achos yn ymwneud â diswyddo annheg. Gallwch hefyd alw ar dystion i roi tystiolaeth.
Fel arfer, bydd y bobl ganlynol yn gofyn cwestiynau i chi:
- y barnwr
- yr atebydd
- y ddau aelod arall o’r panel tribiwnlys (dim ond mewn achosion penodol)
Cael penderfyniad
Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch ychydig ddyddiau neu wythnosau ar ôl y gwrandawiad. Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar GOV.UK. Mewn rhai achosion efallai byddwch yn cael y penderfyniad yn y gwrandawiad.