Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth
Cyn i chi wneud hawliad
Gallwch weld os oes yna ffordd arall i ddatrys y broblem cyn i chi wneud hawliad i dribiwnlys, drwy er enghraifft, ddefnyddio gweithdrefn gwyno.
Defnyddio proses cymodi cynnar Acas
Rhaid ichi roi gwybod i Acas (Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) eich bod yn bwriadu gwneud hawliad.
Hysbysu Acas am wneud hawliad i’r tribiwnlys.
Byddwch yn cael cynnig cyfle i geisio setlo’r anghydfod heb fynd i’r tribiwnlys trwy ddefnyddio gwasanaeth ‘Cymodi Cynnar’ rhad ac am ddim Acas.
Os na fydd cymodi cynnar yn llwyddiannus, neu os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan, bydd Acas yn anfon tystysgrif cymodi cynnar atoch. Defnyddiwch y dystysgrif hon pan fyddwch yn gwneud hawliad i’r tribiwnlys.
Unwaith y byddwch wedi cael eich tystysgrif, bydd gennych o leiaf un mis ar ôl i wneud eich hawliad.
Os oes mwy nag un atebydd, bydd Acas yn anfon atoch dystysgrif ar gyfer pob atebydd.
Ffoniwch llinell gymorth Acas os oes gennych gwestiynau am sut mae’r broses cymodi cynnar yn gweithio.
Achlysuron pan nad oes angen ichi gysylltu ag Acas
Nid oes rhaid i chi gysylltu ag Acas i’w hysbysu eich bod yn bwriadu gwneud hawliad:
- os ydych yn gwneud hawliad gydag unigolyn arall sydd eisoes wedi bod drwy’r broses cymodi cynnar
- mae’r atebydd eisoes wedi cysylltu ag Acas – bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn
- rydych ond yn gwneud hawliad am ddiswyddo annheg ac yn gwneud cais am gymorth interim fel rhan o’r hawliad hwnnw – bydd angen i chi ddefnyddio’r broses cymodi cynnar ar gyfer unrhyw hawliadau eraill yr ydych yn eu gwneud ar yr un amser
- nid oes gan Acas y pŵer i gymodi ar ran o’ch hawliad neu’ch hawliad cyfan.
Os ydych yn ansicr, cysylltwch ag Acas cyn gwneud hawliad i’r tribiwnlys.
Cymorth cyfreithiol
Efallai byddwch eisiau cael cymorth neu gyngor cyfreithiol, os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr neu yn Yr Alban, cyn gwneud eich hawliad.
Efallai y bydd eich undeb llafar yn gallu talu am gyfreithiwr i chi.
Efallai y gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan:
- Cyngor ar Bopeth, os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
- Cyngor ar Bopeth Yr Alban, os ydych yn byw yn yr Alban
- Cymdeithas Cyfreithwyr Cyflogaeth, os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
- Rhwydwaith Canolfannau’r Gyfraith, os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
- Law Works, os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
Os yw eich hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu, efallai y gallwch gael:
- cyngor cyfreithiol am ddim gan y Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb
- cymorth cyfreithiol i dalu am gyngor cyfreithiol