Cyfraddau

Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:

  • £3.45 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 2

  • £17.45 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 3

Fel arfer, byddwch yn talu’r gyfradd bresennol pan fyddwch yn gwneud cyfraniad gwirfoddol.

Pan fyddwch yn talu cyfraddau gwahanol

Os oedd y bwlch yn eich cofnod Yswiriant Gwladol rhwng 6 Ebrill 2016 a 5 Ebrill 2023, byddwch yn talu’r cyfraddau a oedd yn berthnasol ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023:

Byddwch hefyd yn talu’r cyfraddau hyn os ydych yn ddyn a aned ar ôl 5 Ebrill 1951 neu’n fenyw a aned ar ôl 5 Ebrill 1953, a’ch bod am dalu i lenwi unrhyw fylchau rhwng 6 Ebrill 2006 a 5 Ebrill 2016.

Ar ôl 5 Ebrill 2025, mae’n bosibl ni fyddwch bellach yn gymwys i dalu, neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ar gyfraddau uwch. Dysgwch ragor am sut a phryd i dalu.