Trosolwg

Os na fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol, mae’n bosibl y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gallai hyn fod oherwydd:

  • roeddech yn gyflogedig, ond ag enillion isel

  • roeddech yn ddi-waith ac nid oeddech yn hawlio budd-daliadau

  • roeddech yn hunangyflogedig, ond na wnaethoch dalu cyfraniadau o ganlyniad i elw bychan

  • roeddech yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gall bylchau olygu na fydd gennych ddigon o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn:

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu llenwi unrhyw fylchau drwy wneud cyfraniadau gwirfoddol.

Pwy na all dalu cyfraniadau gwirfoddol

Ni allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol os:

  • nid oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol – oni bai eich bod yn cael credydau Dosbarth 3 ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2

  • rydych yn fenyw briod neu’n weddw sy’n talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg)

  • yw’r dyddiad cau ar gyfer talu cyfraniadau am y cyfnod sydd â bylchau wedi pasio

Gwirio’ch cofnod am fylchau

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod:

  • a oes gennych unrhyw fylchau

  • faint y bydd yn ei gostio i dalu cyfraniadau gwirfoddol

  • a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol

  • a allwch dalu ar-lein

Os oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol cyn penderfynu talu cyfraniadau gwirfoddol.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych yn credu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol yn anghywir.

Penderfynu a ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol

Nid yw cyfraniadau gwirfoddol bob amser yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft os cawsoch eich contractio allan.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch ragolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor a’ch bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu o fewn 6 mis o’i gyrraedd, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor.

Pam efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol

Mae’n bosibl y byddwch am dalu cyfraniadau gwirfoddol oherwydd:

Pobl hunangyflogedig gyda swyddi penodol

Nid yw pawb yn cael eu cyfraniadau Dosbarth 2 wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu, ond efallai y bydd y bobl hyn am dalu cyfraniadau gwirfoddol. Mae’r swyddi hyn fel a ganlyn:

  • arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad

  • landlord sy’n gymwys i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

  • weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl

  • person sy’n gwneud buddsoddiadau ar ei gyfer ei hun neu ar gyfer pobl eraill – ond nid fel busnes, a heb gael ffi na chomisiwn