Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Skip contents

Sut a phryd i dalu

Os ydych yn byw yn y DU, dysgwch sut i wneud y canlynol:

Os ydych yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu os ydych wedi gwneud yn flaenorol), dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Gwiriwch a oes angen i chi dalu Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor.

Dyddiadau cau

Fel arfer, gallwch ond talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig. Bob blwyddyn, y dyddiad cau yw 5 Ebrill.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2030 i lenwi’r bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Os ydych am wneud cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth 2016 i 2017, neu 2017 i 2018, mae’r dyddiad cau wedi’i ymestyn. Mae gennych hyd at 5 Ebrill 2025 i dalu.

Weithiau, yn dibynnu ar eich oedran, gallwch dalu i lenwi bylchau o fwy na 6 blynedd yn ôl.

Rydych yn ddyn a aned ar ôl 5 Ebrill 1951 neu’n fenyw a aned ar ôl 5 Ebrill 1953

Mae gennych hyd at 5 Ebrill 2025 i dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi bylchau rhwng blynyddoedd treth Ebrill 2006 ac Ebrill 2016, os ydych yn gymwys.

Ar ôl 5 Ebrill 2025, byddwch ond yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig. Mae’n bosibl na fydd hyn yn ddigon i fod yn gymwys i gael Pensiwn Newydd y Wladwriaeth os oes gennych lai na 4 blwyddyn gymhwysol ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Fel arfer, bydd angen o leiaf 10 mlynedd cymhwysol arnoch.

Cael help

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych gwestiynau am Yswiriant Gwladol gwirfoddol.