Trosolwg

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i helpu i fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau fel Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn hunangyflogedig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu’r cyfraniadau hyn fel rhan o’u bil treth Hunanasesiad neu mae eu cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu.

Pryd y gallech ddewis talu

Mae’n bosibl y byddwch yn dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • nid ydych yn talu drwy Hunanasesiad
  • rydych am lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - gallwch wirio’ch bod yn gymwys ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn hunangyflogedig
  • rydych yn gweithio neu’n byw dramor, neu wedi gwneud yn y gorffennol

Os ydych fel arfer yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 fel rhan o’ch bil Hunanasesiad ond wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer talu, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i gael cyfeirnod a gwneud eich taliad.

Gallwch hefyd ddewis talu oherwydd nad ydych yn gymwys i gael eich trin fel rhywun sydd wedi talu cyfraniadau Dosbarth 2. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi’n un o’r canlynol:

  • yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad
  • yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl
  • yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn
  • landlord ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2

Sut i wneud cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol

Mae gwahanol ffyrdd o wneud cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol yn dibynnu ar p’un a ydych:

Ar ôl i chi dalu

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.