Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Os ydych yn byw yn y DU
Bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad.
Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg ac fel arfer gallwch dalu cyfraniadau am y 6 blynedd dreth ddiwethaf. Gwiriwch y dyddiadau cau ar gyfer talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol.
Ar ôl i chi gofrestru
Bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu.
Bydd y cais am daliad yn cynnwys cyfeirnod 18 digid y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol os na fyddwch yn derbyn cais am daliad erbyn diwedd mis Tachwedd.
Dulliau o dalu
Bydd eich cais am daliad yn rhoi dyddiad cau i chi dalu CThEF.
Mae faint o amser y mae angen i chi ganiatáu i CThEF gael eich taliad yn dibynnu ar sut rydych yn talu.
Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:
-
drwy fancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS)
-
yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Caniatewch 3 diwrnod i daliadau fynd drwodd drwy’r canlynol:
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs)
Sicrhewch eich bod yn caniatáu 21 diwrnod gwaith i drefnu Debyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un o’r blaen.
Os bydd y dyddiad cau ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny. Nid oes angen i chi wneud hyn os ydych chi’n talu gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn Taliadau Cyflymach.
Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer talu
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau y mae CThEF wedi’i roi i chi, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hefyd effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i ddarganfod faint sydd angen i chi ei dalu.
Cadarnhad o’r taliad
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.