Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Talu â siec drwy’r post
Gallwch dalu o gyfrif banc yn y DU drwy anfon siec at:
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
BX5 5BD
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF. Caniatewch fwy o amser os ydych yn anfon y taliad o dramor.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan CThEF - ysgrifennwch hwn ar gefn y siec
-
y slip cyflog a anfonwyd atoch ar waelod eich cais am daliad gan CThEF
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.
Peidiwch â phlygu’ch slip cyflog na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Os nad oes gennych slip cyflog CThEF
Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:
-
eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
-
y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad
-
eich rhif Yswiriant Gwladol - dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli
-
faint rydych yn ei dalu
Cadarnhad o’r taliad
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Gallwch hefyd wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth bersonol. Caniatewch hyd at 8 wythnos i’ch taliad ymddangos.