Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad

Skip contents

Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Talu o gyfrif banc yn y DU

Gallwch dalu CThEF drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs, gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • cod didoli - 08 32 20

  • rhif y cyfrif - 12001004

  • enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts

Cyfeirnod i’w ddefnyddio

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU, mae’r cyfeirnod y mae angen i chi ei ddefnyddio yn dibynnu ar p’un a ydych: 

  • yn byw ac yn gweithio yn y DU

  • yn byw dramor

  • yn byw yn y DU ond yn talu am gyfnod pan oeddech yn gweithio dramor 

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Os ydych yn byw ac yn gweithio yn y DU, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan CThEF wrth i chi wneud taliad. Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y digidau. 

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid ac rydych eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os ydych naill ai’n byw dramor neu’n byw yn y DU ond yn talu am gyfnod pan oeddech yn gweithio dramor, mae angen i chi ddefnyddio cyfeirnod gwahanol.

Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna llythyren gyntaf eich enw cyntaf.

Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.

Enghraifft

Os mai Anne Jones yw’ch enw, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA

Talu o gyfrif banc tramor

Gallwch dalu o gyfrif tramor os ydych yn byw neu’n gweithio dramor dros dro.

Defnyddiwch y manylion canlynol:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB49 BARC 2020 4830 9447 93

  • Cod Adnabod y Banc (BIC) - BARCGB22  

  • enw’r cyfrif - HMRC NIC receipts

Cyfeirnod i’w ddefnyddio

Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna llythyren gyntaf eich enw cyntaf.

Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.

Enghraifft

Os mai Anne Jones yw’ch enw, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA

Os ydych yn gyflogwr sy’n talu am gyflogai sy’n byw dramor, dylech ddefnyddio’ch rhif cyflogwr 13 cymeriad.

Cyfeiriad bancio  

Cyfeiriad bancio CThEF yw:  


Barclays Bank PLC 
1 Churchill Place 
Llundain 
Y Deyrnas Unedig 
E14 5HP

Cadarnhad o’r taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.