Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os yw un o’r canlynol yn wir:
-
rydych yn byw dramor ond yn hunangyflogedig yn y DU
-
rydych yn hunangyflogedig dramor ac mae gennych dystysgrif sicrwydd (yn agor tudalen Saesneg) gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i brofi nad oes angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych chi’n gweithio ynddi
Mae’r ffordd y telir cyfraniadau Dosbarth 2 yn dibynnu ar faint o elw a wnewch.
Os yw’ch elw yn is na £6,725
Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) i ddiogelu’ch cofnod Yswiriant Gwladol.
Mae angen i chi dalu drwy wneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn.
Os yw’ch elw yn £6,725 neu’n fwy
Nid oes angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 oherwydd eu bod yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu. Mae hyn yn golygu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol wedi’i ddiogelu’n awtomatig.
Sut i fod yn gymwys
Er mwyn i’ch cyfraniadau Dosbarth 2 gael eu trin fel pe baent wedi’u talu, mae’n rhaid i chi roi naill ai:
-
cyfrifon ffurfiol o elw a cholled
-
cyfrifon 3-llinell sy’n dangos derbyniadau neu enillion gros y busnes, gan gynnwys unrhyw gomisiynau neu gildyrnau, cyfanswm treuliau a ffigurau elw neu golled net
Anfonwch eich cyfrifon ynghyd â’ch enw llawn, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol i:
Gwasanaethau Hunangyflogaeth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich cyfrifon yw 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y mae’r cyfraniadau Dosbarth 2 wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch erbyn diwedd mis Hydref.
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych yn cael un.