Debyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) i wneud taliadau rheolaidd o gyfrif banc yn y DU.

Dylech ganiatáu 21 diwrnod i drefnu Debyd Uniongyrchol newydd. 

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi swm y taliadau a fydd yn cael eu cymryd, a phryd y bydd hynny’n digwydd.

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NI-DD’. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os bydd eich taliadau’n newid am unrhyw reswm. 

Os oes gennych gwestiwn ynghylch eich taliadau Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch gyda’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.