Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Talu ar-lein
Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol os ydych yn byw ac yn gweithio yn y DU.
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich manylion bancio ar-lein
-
y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid a’ch bod eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Gwnewch y canlynol, pan fyddwch yn barod i dalu:
-
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.
-
Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.
Cadarnhad o’r taliad
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.