Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad

Sgipio cynnwys

Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen. 

Bydd angen eich slip cyflog Cyllid a Thollau EF (CThEF). Fe welwch hyn ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF

Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd cyfrif CThEF.

Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’. 

Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip cyflog neu ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad oes gennych gais am daliad neu gyfeirnod, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.

Cadarnhad o’r taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.