Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Skip contents

Gwiriwch pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu

Mae’r tabl hwn yn esbonio pwy sy’n gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 neu gyfraniadau Dosbarth 3.

Eich sefyllfa Pa ddosbarth i’w dalu
Yn gyflogedig ond yn ennill llai na £123 yr wythnos a heb fod yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) Dosbarth 3
Hunangyflogedig gydag incwm gros o £1,000 neu lai  Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 – maent yn cyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth a gwahanol fudd-daliadau
Hunangyflogedig gydag incwm gros dros £1,000 ond gydag elw o lai na £6,725 Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 – maent yn cyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth a gwahanol fudd-daliadau
Yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, gydag enillion isel ac elw bychan Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i wirio a oes gennych fwlch a faint y mae angen i chi ei dalu
Hunangyflogedig fel arholwr, gweinidog crefydd, landlord neu mewn busnes buddsoddi Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 – maent yn cyfrif tuag at wahanol fudd-daliadau
Di-waith a heb hawlio budd-daliadau nac yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 mae’n rhaid i chi naill ai:

  • fod wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol 

  • fod wedi talu cyfraniadau, neu wedi trin cyfraniadau Dosbarth 2 fel pe baent wedi’u talu am o leiaf 3 blynedd

I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2, mae’n rhaid i’r ddau o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael 

  • rydych yn gweithio dramor ar hyn o bryd (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)

Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Nododd yr arweiniad fod yn rhaid i’r holl amodau hyn fod yn berthnasol. Os na wnaethoch wneud cais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i’r arweiniad anghywir, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Eich sefyllfa Pa ddosbarth i’w dalu
Rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac eisiau llenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 a Dosbarth 2 os ydych yn gymwys