Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Trosolwg
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Fel arfer, gallwch ond dalu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol ar gyfer y 6 blwyddyn dreth ddiwethaf. Mae blwyddyn dreth yn dod i ben ar 5 Ebrill.
Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2030 i dalu am fylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.
Os ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth 2016 i 2017 neu 2017 i 2018, mae gennych tan 5 Ebrill 2025 i’w dalu.
Mae fideo ar YouTube sy’n dangos Sut i wirio eich Pensiwn y Wladwriaeth a thalu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Cyn i chi dalu
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol – gallai olygu nad oes rhaid i chi dalu.
Wedyn, gallwch wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol a rhagolwg o’ch pensiwn i gael gwybod y canlynol:
- a oes gennych unrhyw fylchau
- a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
- faint fydd y gost
- a allwch dalu ar-lein
Ni fydd talu cyfraniadau gwirfoddol o reidrwydd yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth bob tro.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad.
Gall hyn gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith os ydych yn talu ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Ar gyfer pob dull talu arall, gall gymryd hyd at 8 wythnos. Efallai y bydd taliadau o’r tu allan i’r DU cymryd mwy o amser.