Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Talu ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio Rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth os yw’r canlynol yn wir:
- rydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn gweithio yn y DU
Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif.
Gallwch hefyd wirio’r canlynol:
- a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a allwch dalu ar-lein
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn hunangyflogedig neu os ydych wedi byw neu weithio dramor.
Ffyrdd eraill o dalu os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych wedi byw neu weithio dramor, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Os ydych yn hunangyflogedig
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) yn lle.
Os ydych chi wedi byw neu weithio dramor
Dysgwch sut i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol os ydych wedi byw neu weithio dramor.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu o fewn 4 mis i’w gyrraedd, cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol (yn agor tudalen Saesneg) am gyngor yn lle.