Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Anfon siec drwy'r post
Gallwch dalu drwy anfon siec at:
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF HMRC
BX9 1ST
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Bydd y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF yn cynnwys slip talu gyda chyfeirnod 18 digid arno. Anfonwch y slip talu ynghyd â’ch siec.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec.
Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Os nad oes gennych slip talu CThEF
Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:
- eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- faint rydych yn ei dalu
- y cyfnod rydych yn talu ar ei gyfer
- eich cyfeirnod 18 digid neu’ch rhif Yswiriant Gwladol
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:
- Gofyn i CThEF ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)
- Cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ofyn i CThEF ar-lein
Ar ôl i chi dalu
Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.