Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Sefydlu Debyd Uniongyrchol
Os ydych chi’n gwybod y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth bresennol, gallwch wneud taliadau rheolaidd i dalu am y diffyg.
Gallwch ond defnyddio Debyd Uniongyrchol i wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025) a blynyddoedd treth yn y dyfodol.
I drefnu taliadau misol, lawrlwythwch y ffurflen Debyd Uniongyrchol a’i hanfon at Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Dylech ganiatáu 21 diwrnod ar gyfer trefnu Debyd Uniongyrchol newydd.
Bydd CThEF yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi pryd bydd taliadau yn cael eu cymryd a beth fydd y symiau.
Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen fel ‘HMRC NI-DD’.
Fel arfer bydd eich taliadau yn dechrau ym mis Mai. Gallwch dalu ôl-ddyledion ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol drwy eich taliad cyntaf os ydych yn trefnu’r Debyd Uniongyrchol ar ôl mis Mai.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol ers 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod yn dal wedi’i sefydlu.
Os ydych am dalu’n chwarterol, gallwch ofyn i CThEF ar-lein. Os na allwch drefnu i dalu’n chwarterol drwy ofyn i CThEF ar-lein, gallwch gysylltu â CThEF mewn ffordd arall.
Byddant yn anfon cais am daliad atoch bob mis Gorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.