Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion bancio ar-lein
  • y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF)

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Talu nawr

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Os bydd 5 Ebrill ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Ar ôl i chi dalu

Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.