Rhyddhad treth wrth i chi gyfrannu i elusen
Rhoddi tir, eiddo neu gyfranddaliadau
Does dim rhaid i chi dalu treth ar dir, eiddo na chyfranddaliadau rydych yn eu rhoddi i elusen. Mae hyn yn cynnwys eu gwerthu am lai na’u gwerth marchnadol.
Byddwch yn cael rhyddhad treth ar y ddwy dreth ganlynol:
- Treth Incwm
- Treth Enillion Cyfalaf
Ni allwch gael rhyddhad Treth Incwm ar gyfraniadau i glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau).
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r cyfraniad i ddangos eich bod wedi gwneud y rhodd neu’r gwerthiant a bod yr elusen wedi’i dderbyn.
Rhyddhad Treth Incwm
Gallwch dalu llai o Dreth Incwm drwy ddidynnu gwerth eich cyfraniad (yn agor tudalen Saesneg) oddi wrth gyfanswm eich incwm trethadwy. Gwnewch hyn ar gyfer y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) y gwnaethoch y rhodd neu’r gwerthiant i elusen.
Sut i hawlio
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ychwanegwch y swm rydych yn ei hawlio yn adran ‘Cyfrannu at elusennau’ y ffurflen. Bydd hyn yn gostwng eich bil Hunanasesiad.
Os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth, cysylltwch â CThEF gyda manylion y rhodd neu’r gwerthiant a swm eich rhyddhad treth. Naill ai byddwch yn cael ad-daliad, neu bydd eich cod treth yn cael ei newid er mwyn i chi dalu llai o Dreth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth honno.
Rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf
Does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar dir, eiddo na chyfranddaliadau rydych yn eu rhoddi i elusen.
Efallai y bydd yn rhaid i chi ei thalu os byddwch yn eu gwerthu am fwy na’r hyn yr oeddent wedi’i gostio i chi ond am lai na’u gwerth marchnadol. Cyfrifwch eich ennill gan ddefnyddio’r swm y mae’r elusen yn ei dalu i chi mewn gwirionedd, yn hytrach na gwerth yr ased.
Gwerthu tir, eiddo neu gyfranddaliadau ar ran elusen
Pan fyddwch yn cynnig rhodd o dir, eiddo neu gyfranddaliadau, gall yr elusen ofyn i chi werthu’r rhodd ar ei rhan.
Gallwch wneud hyn a dal i hawlio rhyddhad treth ar gyfer y cyfraniad, ond mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r rhodd a chais yr elusen. Heb y rhain, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.