Dyddiadau taliadau Budd-dal Plant

Skip contents

Gwyliau banc

Fel arfer mae’ch taliad Budd-dal Plant yn cael ei dalu’n gynnar os yw’n ddyledus ar ŵyl y banc (yn agor tudalen Saesneg).

Dyddiad dyledus   Dyddiad talu 
18 Mawrth 2024 19 Mawrth (Gogledd Iwerddon yn unig)  
19 Mawrth 2024 20 Mawrth (Gogledd Iwerddon yn unig)
1 Ebrill 2024 28 Mawrth
6 Mai 2024 3 Mai
27 Mai 2024 24 Mai
15 Gorffennaf 2024 16 Gorffennaf (Gogledd Iwerddon yn unig)
26 Awst 2024 23 Awst 
30 Rhagfyr 2024 31 Rhagfyr (Gogledd Iwerddon yn unig)

Gallwch weithio allan pryd y cewch eich talu.

Gwyliau cyhoeddus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os yw’r banc ar gau oherwydd gwyliau cyhoeddus ar y diwrnod mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn eich talu.

Gwiriwch gyda’ch banc o ran y dyddiad y byddwch yn cael eich taliad.

Gwyliau lleol yn yr Alban

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi oherwydd gwyliau lleol os ydych yn byw yn y llefydd canlynol:

  • Glasgow - gwyliau lleol ar 30 Medi 
  • Caeredin - gwyliau lleol ar 16 Medi 
  • Dundee - gwyliau lleol ar 7 Hydref