Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel asiant: cam wrth gam
Os ydych yn asiant, dysgwch sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar ran eich cleientiaid.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd o roi gwybod am incwm a threuliau os yw’ch cleient yn unig fasnachwr neu’n landlord.
Bydd angen i chi a’ch cleient ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o incwm a threuliau eich busnes
- anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Pwy fydd angen cofrestru
Bydd angen i chi a’ch cleient ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- mae’ch cleient yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- mae’ch cleient yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
- mae incwm cymhwysol eich cleient yn fwy na £30,000
Os yw incwm cymhwysol eich cleient yn fwy na £20,000, neu fod eich cleient un unigolyn mewn partneriaeth fusnes, bydd angen i’ch cleient ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol. Byddwn yn gosod yr amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.
1. Cyfrifwch incwm cymhwyso eich cleient
Dysgwch am beth sydd wedi’i gynnwys yn incwm cymhwysol eich cleient at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn gwirio a oes angen i’ch cleient gofrestru.
2. Darganfyddwch a oes angen i'ch cleient ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd
Gwiriwch a oes angen i’ch cleient ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am ei incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i ddysgu pryd mae angen i’ch cleient ddechrau arni.
3. Creu cyfrif gwasanaethau asiant
Bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Dysgwch sut i greu cyfrif gwasanaethau asiant gyda CThEF os nad oes gennych un eisoes.
4. Cael meddalwedd gydnaws
Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael gan wahanol ddarparwyr o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at anghenion eich cleient. Cofiwch i gael awdurdodiad gan eich cleient yn gyntaf a chysylltwch eich cyfrif presennol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF â’r feddalwedd o’ch dewis.
5. Cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch am ba dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn cofrestru’ch cleient. Mae hyn yn cynnwys cael caniatâd ac awdurdodiad eich cleient. Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau asiant i gael awdurdodiad cyn cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
6. Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru’ch cleient a’r gwahanol dasgau y mae angen i chi a’ch cleient eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth. Mae’r rhain yn cynnwys creu cofnodion digidol a’u cadw, anfon diweddariadau chwarterol, a beth i’w wneud os bydd newid yn eich amgylchiadau.