Amdanom ni
Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i fod â rheolaeth dros benderfyniadau ynghylch eu hiechyd a'u cyllid ac i wneud penderfyniadau ar ran pobl eraill nad ydynt yn gallu penderfynu drostynt eu hunain.
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- helpu pobl i drefnu bod rhywun yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan, mewn sefyllfaoedd lle na fyddant yn gallu gwneud hynny am nad ydynt yn meddu ar alluedd meddyliol
- cefnogi pobl i wneud penderfyniadau ar ran y rheini nad ydynt yn gallu penderfynu drostynt eu hunain
Rydym yn cyflawni swyddogaethau cyfreithiol Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl sydd ar Goll) 2017.
Ein cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- cymryd camau gweithredu lle bo pryderon ynghylch twrnai, dirprwy neu warcheidwad
- cofrestru atwrneiaeth arhosol a pharhaus, fel bod pobl yn gallu dewis pwy fydd yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan
- cadw’r cofrestrau o dwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid
- goruchwylio’r dirprwyon a’r gwarcheidwaid a benodwyd gan y llysoedd a gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol
- ymchwilio i adroddiadau o gamdriniaeth yn erbyn twrneiod, dirprwyon neu warcheidwaid cofrestredig
Ein blaenoriaethau
Dyma ein blaenoriaethau presennol:
- deall ein cwsmeriaid yn well a chynllunio ffyrdd o fesur i ba raddau rydym yn diwallu eu hanghenion
- darparu mwy o wasanaethau digidol
- gweithio gyda sefydliadau partner i wella ein gwasanaeth, a sicrhau bod ein holl ddefnyddwyr yn gallu cael mynediad iddo.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Datganiad ar gaethwasiaeth fodern
- Ein defnydd o ynni
- Ein llywodraethiant
- Gweithdrefn gwyno
- Polisi dogfennau hygyrch
- Ymholiadau gan y cyfryngau
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Dysgu Am ein gwasanaethau.