Apelio yn erbyn y canlyniad
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar ôl cyflwyno her, mae gennych yr hawl (o dan rai amgylchiadau) i apelio.
Yn berthnasol i England and Gymru
Pryd y gallwch apelio
Mae angen i chi fynd â’ch apêl gerbron y Tribiwnlys Prisio am adolygiad annibynnol, a hynny cyn pen 4 mis i’r penderfyniad am yr her.
Os na fydd y VOA wedi’ch ateb cyn pen 18 mis i’r dyddiad pan wnaethoch gyflwyno her, bydd gennych hefyd yr hawl i apelio at y Tribiwnlys Prisio.
Mathau o apelio
Mae’r Tribiwnlys Prisio yn delio ag apeliadau yn erbyn:
- y cofnod yn y rhestr ardrethu – y gwerth ardrethol neu ran arall o’r cofnod
- hysbysiad cwblhau a anfonwyd gan yr awdurdod bilio (cyngor lleol) ar gyfer eiddo. Mae’r hysbysiad hwn yn dangos y dyddiad pan fydd yr eiddo wedi’i gwblhau’n llawn neu’n sylweddol, ym marn y cyngor, ac felly’r dyddiad pan ddylai ardrethi ddechrau cael eu talu
- tystysgrif drosiannol a anfonwyd gan y VOA oherwydd rhyddhad trosiannol, sef cynllun sy’n ceisio lleihau’r effaith y mae newidiadau mawr mewn gwerthoedd ardrethol yn ei chael rhwng rhestrau ardrethu
Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno’r holl wybodaeth sy’n berthnasol i’ch achos i’r Tribiwnlys Prisio, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth rydych am i’r Tribiwnlys ei hystyried.
Bydd y VOA yn darparu copi o’ch her, ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, i’r Tribiwnlys Prisio os bydd yn gofyn amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, dylech gysylltu â’r Tribiwnlys Prisio.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 October 2023 + show all updates
-
A Welsh translation has been added.
-
Updated information for Wales
-
Updated for the 2023 rating list
-
First published.