Canllawiau

Carchar Durham

Mae Carchar Durham yn garchar i ddynion yng nghanol dinas Durham.

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Charchar Durham

I ymweld â rhywun yng Ngharchar Durham, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad rhwng 2 wythnos a 24 awr ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Durham.

Cysylltwch â Charchar Durham os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i garchar Durham
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Archebwch eich ymweliad dros y ffôn: 0300 303 2300
Mae’r llinellau ffôn yn agored: Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener - 12pm i 5pm dydd Mawrth a dydd Iau - 9am tan 5pm (wedi cau ar Wyliau Banc)
Gwybodaeth am gostau galwadau

Neu e-bostiwch: www.gov.uk/prison-visits

Amseroedd ymweld

  • Dydd Llun: 2pm i 4pm.
  • Dydd Mawrth: 9:30am i 11:30am a 2pm i 4pm
  • Dydd Mercher: 9:30am i 11:30am a 2pm i 4pm
  • Dydd Iau: 2pm i 4pm.
  • Dydd Gwener: 2pm i 4pm, Sesiwn Dysgu fel Teulu, 5pm i 6:30pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul: 9:30am i 11:30am a 2pm i 4pm

Dyddiau Ex Fam:

  • 24, 31 Awst
  • 2 Tachwedd
  • 21 Rhagfyr

Tad a Phlentyn:

  • 7, 14, 21, 28 Medi
  • 5, 12, 19, 26 Hydref
  • 9, 16, 23, 30 Tachwedd
  • 7, 14 Rhagfyr

Dysgu fel Teulu:

  • 25 Awst
  • 8, 15, 22, 29 Medi
  • 6, 13, 20, 27 Hydref
  • 3, 10, 17, 24 Tachwedd
  • 1, 8, 15, 22 Rhagfyr

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

E-bost: LegalVisits.Durham@justice.gov.uk

Ffôn: 0191 332 3816
Oriau llinell archebu ymweliadau cyfreithiol: 8:30am i 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Amseroedd ymweliadau cyfreithiol

  • Dydd Llun: 2pm i 4pm.
  • Dydd Mawrth i ddydd Iau: 9am i 11:45am a 2pm i 4pm
  • Dydd Gwener: 2pm i 4pm.

Rhaid i chi roi gwybod i’r staff archebu os oes angen i chi ddod ag offer gyda chi (fel gliniadur). Bydd cadarnhad eich archeb yn esbonio’r cyfyngiadau yn ystod eich ymweliad.

Mae cyswllt fideo llys ar gael ar gyfer cynrychiolwyr cyfreithiol carcharor os oes capasiti. Gofynnwch i staff y llinell archebu am ragor o wybodaeth.

Ymweliadau cyswllt fideo

E-bost: vccdurham@justice.gov.uk
Archebu dros y ffôn: 0191 332 3818

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 11:45pm a 2pm i 4pm

Cyrraedd Carchar Durham

Dod o hyd i Garchar Durham ar fap

Yr orsaf drenau agosaf yw Durham, tua 20 munud ar droed, neu gallwch chi fynd mewn tacsi.

Mae gorsaf fysiau Durham oddeutu 15 munud ar droed o’r carchar.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus defnyddiwch:

Nid oes maes parcio i ymwelwyr.

Nid oes maes parcio i ymwelwyr anabl, fodd bynnag, mae dau le parcio i bobl anabl ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Cysylltwch â NEPACs  ar:

Rhadffôn 0800 012 1539
E-bost: support@nepacs.co.uk Testun 07983 437 457

Mynd i Garchar Durham

Rhaid i bob ymwelydd brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd. Bydd llun ymwelwyr dros 10 oed yn cael ei dynnu.

Mae gan Carchar Durham bolisi cod gwisg llym, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo dillad smart (dim festiau, dim topiau isel na thopiau dadlennol, dim trowsusau byr iawn, dim ffrogiau byr, dim dillad y gellir gweld trwyddynt, dim crysau pêl-droed, dim sloganau sarhaus a dim penwisgoedd, ac eithrio’r rhai a wisgir am resymau crefyddol). Hefyd, ni chaiff ymwelwyr wisgo oriawr glyfar, sbectol haul, esgidiau blaen dur nac ategolion gwallt metel.

Gallwch brynu lluniaeth yn y ganolfan ymwelwyr ac yn y neuadd ymweliadau. Caniateir i chi ddod â hyd at £20 o ddarnau arian i mewn ar gyfer pryniannau.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Durham. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer (bydd angen darn £1 arnoch) neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan cymorth i ymwelwyr a theuluoedd yn cael ei rhedeg gan Nepacs. Gall staff a gwirfoddolwyr yn y ganolfan ymwelwyr roi gwybodaeth a chefnogaeth i chi.

Gallwch brynu lluniaeth yn y ganolfan ymwelwyr ac yn y neuadd ymweliadau. Caniateir i chi ddod â hyd at £20 o ddarnau arian i mewn ar gyfer pryniannau.

Diwrnodau teulu

Mae CEF Durham yn cynnal nifer o ymweliadau i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn. Mae manylion am sut mae’r ymweliadau hyn yn cael eu cynnal ar gael yma neu drwy gysylltu â: http://www.nepacs.co.uk/page/durham.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Durham

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Durham.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu hystafelloedd, ond bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Durham drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Durham.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Bywyd yng Ngharchar Durham

Mae Carchar Durham wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob person yng Ngharchar Durham hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Durham am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n gallu cael cawod a siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Durham yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae bron i 1000 o ddynion yn byw yng Ngharchar Durham, ar remand yn bennaf (nid ydynt wedi cael eu dedfrydu eto).

Mae 7 adain, ynghyd ag uned gwahanu a chanolfan gofal iechyd.

Addysg a gwaith

Mae carcharorion yng Ngharchar Durham yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau addysg, hyfforddiant galwedigaethol a chyflogadwyedd.

Darperir addysg gan Novus ac mae’n cynnwys:

  • sgiliau ar gyfer bywyd
  • TG
  • gwasanaeth cwsmeriaid.
  • celf
  • garddwriaeth
  • Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill

Mae hyfforddiant galwedigaethol ar gael sy’n adlewyrchu’r farchnad gyflogaeth leol. Mae’n cynnwys:

  • adeiladu
  • IT
  • warysau
  • ailgylchu
  • bwyd a lletygarwch

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Gallwch hefyd gael cymorth gan NEPACs, sy’n darparu cymorth i deuluoedd carcharorion.

I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yng Ngharchar Durham, anfonwch e-bost at: safercustodydurham@justice.gov.uk.

Cefnogaeth yng Ngharchar Durham

Mae’r ganolfan ymwelwyr yng Ngharchar Durham yn cael ei rhedeg gan NEPACs, sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth ynghylch

  • Ymweliadau
  • Eiddo
  • Gofal Iechyd
  • Cyllid
  • Ffôn PIN

Oriau agor

  • 0191 332 3676 Dydd Llun i Ddydd Sul 9am tan 4pm
  • 0191 332 3462 Dydd Llun i Ddydd Sul 7am tan 3pm

Cysylltwch â NEPACs  ar:

Rhadffôn 0800 012 1539
E-bost: support@nepacs.co.uk Testun 07983 437 457

Costau galwadau

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 0208 588 4000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 0191 332 3400 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Durham.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Durham mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Charchar Durham

Llywodraethwr: Phil Husband

Ffôn (24 awr): 01913 323 400
Ffacs: 01913 323 401
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Durham
Old Elvet
Durham
DH1 3HU

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 March 2023 + show all updates
  1. Secure video call update.

  2. Updated legal/official visiting time slots and added time slots for legal video calls.

  3. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  4. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  5. Updated visiting information: Visits temporarily suspended

  6. Updated rules for sending in money and gifts.

  7. Updated physical contact guidance

  8. New visiting times and booking information added.

  9. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  10. Updated visit info

  11. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  12. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  13. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  14. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  15. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  16. Updated information to include confirmation of secure video calls being available at this prison.

  17. First published.

Sign up for emails or print this page