Canllawiau

Carchar Hewell

Mae Hewell yn garchar i ddynion ym mhentref Tardebigge, ger Redditch yn Swydd Gaerwrangon.

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Hewell

I ymweld â rhywun yn Hewell, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • archebu eich ymweliad ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Mae cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall person eu cael, sydd yn amrywio o un carcharor i’r llall. Gallwch wirio hyn gyda Hewell.

Cysylltwch â Hewell os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Hewell
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein, drwy e-bost neu dros y ffôn.

E-bost: visitsbooking.westmidlands@justice.gov.uk

Llinell archebu: 0300 060 6503
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9:15am a 4pm

Gwybodaeth am gost galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Llun: 1:15pm i 4pm
  • Dydd Mercher: 1:15pm i 4pm
  • Dydd Gwener: 8:45am i 11am
  • Dydd Sadwrn: 8:45am i 11am
  • Dydd Sul: 8:45am i 11am

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

I drefnu ymweliad, anfonwch e-bost at: visitsbooking.westmidlands@justice.gov.uk neu gallwch archebu dros y ffôn.

Llinell archebu: 0300 060 6503
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm

Gwybodaeth am gost galwadau

Amseroedd ymweld

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 11:30am a 2pm i 4:30pm

I drefnu cyswllt fideo â’r carchar, rhaid i chi ffonio.

Ffôn: 01527 785 309
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Mae amseroedd apwyntiadau cyswllt fideo ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 11:30am a rhwng 2pm a 4:30pm.

Mynd i Hewell

Dod o hyd i Hewell ar fap

Mae Hewell tua 3 milltir o orsaf Redditch, lle gallwch ddal bws lleol i Tardebigge. Mae’r bws yn eich gollwng tua milltir o’r carchar. Fel arall, gallwch chi gymryd tacsi.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Os ydych chi’n dod mewn car, defnyddiwch y cod post B97 6QQ ar gyfer llywio â lloeren.

Mae llefydd parcio ar gael y tu allan i’r carchar, gan gynnwys llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Cyrraedd Hewell

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae gan Hewell bolisi cod gwisg sy’n addas i deuluoedd, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Efallai y cewch eich troi i ffwrdd os ydych chi’n gwisgo dillad y gellir gweld drwyddynt neu ddillad sy’n dangos gormod o gnawd fel festiau, topiau isel, trowsus neu ffrogiau byr. Hefyd, ni allwch wisgo hwdis nac unrhyw beth sydd â phatrymau neu sloganau sarhaus.

Caniateir i bob ymwelydd sy’n oedolyn gymryd uchafswm o £20 mewn darnau arian (ni chaniateir arian papur). Gellir defnyddio’r arian i brynu bwyd a diod o’r bar byrbrydau yn neuadd ymweliadau.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Hewell. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir. Gall Hewell ddarparu cadair wthio os oes angen.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr yn cael ei rhedeg gan Barnardo’s. Gall teulu a ffrindiau ymlacio, prynu lluniaeth a chael cyngor a chefnogaeth gan y staff.

Mae’r ganolfan yn cynnwys man chwarae i blant.

Mae’r ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 8am a 5pm ac ar ddydd Sul rhwng hanner dydd a 5pm.

Diwrnodau teulu

Does dim diwrnodau teulu ar gael ar hyn o bryd.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Hewell

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Hewell.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu hystafelloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Hewell drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yn Hewell.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Hewell.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Gall carcharorion wneud cais i’r llywodraethwr am ganiatâd i gael parsel o ddillad pan fyddant yn cyrraedd Hewell am y tro cyntaf. Fel arall, fel arfer ni chaniateir i eiddo gael ei bostio na’i drosglwyddo. Gallwch anfon arian at garcharorion yn lle hynny y gallant ei ddefnyddio i brynu eitemau drwy system gatalog.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Bywyd yn Hewell

Mae Hewell wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob person yn Hewell hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Hewell am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Hewell yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae dros 1000 o ddynion yn byw yn Hewell ar draws 6 bloc tai.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys llyfrgell a champfa.

Mae gan Hewell dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o ddosbarthiadau, hyfforddiant a gwaith.

Darperir yr addysg a’r hyfforddiant gan Novus Cynigir amrywiaeth eang o gyrsiau achrededig, gan gynnwys Saesneg, mathemateg, peintio ac addurno a theilsio.

Mae’r cyfleoedd gwaith yn cynnwys y gweithdy beiciau, gwydro dwbl, cegin, golchi dillad, ailgylchu, casglu sbwriel, glanhawyr, peintwyr a swyddogion dydd mewn gwahanol leoliadau.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth yn Hewell

Darperir gwasanaethau teulu yn Hewell gan PACT.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01527 785 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01527 785150 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Hewell.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Hewell mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Hewell

Llywodraethwr: Ralph Lubkowski

Ffôn (24 awr): 01527 785 000
Ffacs: 01527 785 001
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Hewell
Hewell Lane
Redditch
Worcestershire
B97 6QS

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
  1. Opening hours updated for visits booking telephone line.

  2. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  3. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  4. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  5. Updated physical contact guidance

  6. New visiting times and booking information added.

  7. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  8. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  9. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  10. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  11. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  12. Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.

  13. Updated governor name

  14. added survey link

  15. First published.

Sign up for emails or print this page