Canllawiau

Galwadau fideo diogel gyda charcharorion

Sut mae trefnu a gwneud galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar.

Yn berthnasol i England and Gymru

Gallwch archebu a chymryd rhan mewn galwad fideo ddiogel gydag aelod o’r teulu neu ffrind mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.

Mae galwadau fideo yn para 30 munud a gellir cael hyd at 4 o bobl ar yr alwad yn siarad â charcharor. Rhaid i bob galwr fod ar restr ymwelwyr y carcharor a rhaid i’r ‘prif alwr’ fod dros 18 oed. Gall pobl dan 18 oed fod ar yr alwad fideo, cyn belled â’u bod ar restr ymwelwyr y carcharor.

Mae pob carcharor sy’n oedolyn a pherson ifanc yn y ddalfa yn cael cynnig un alwad fideo 30 munud am ddim bob mis. Gall y llywodraethwr ganiatáu galwadau ychwanegol am resymau lles ac mewn amgylchiadau eithriadol.

Diogelwch galwadau fideo

Bydd angen i chi ddilyn rheolau arferol y carchar ynghylch beth i’w wisgo a sut i ymddwyn. Cofiwch fod pob galwad yn cael ei recordio, a gall staff y carchar weld neu wrando ar alwadau wrth iddynt ddigwydd. Gellir atal neu ddirwyn yr alwad i ben os na fydd rheolau’r carchar yn cael eu dilyn.

Beth fydd ei angen arnoch i wneud galwad fideo

  • Ffôn symudol neu dabled – dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael ar gyfrifiadur
  • Cyfrif gyda rhaglen galwadau fideo diogel
  • Pasbort, trwydded yrru neu ID llun arall a gyhoeddwyd gan y llywodraeth
  • Prawf o gyfeiriad (os nad yw eich ID yn cynnwys hwn)
  • Enw, rhif a dyddiad geni’r carcharor
  • Enwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau pawb a hoffai fod ar yr alwad fideo

Sut i baratoi ar gyfer galwad fideo

Mae angen i chi ddefnyddio un o ddau ap i gael galwad fideo gyda rhywun yn y carchar. Bydd yr ap y bydd angen i chi ei ddefnyddio yn dibynnu ar y carchar.

I gael gwybod pa ap sy’n cael ei ddefnyddio gan y carchar rydych chi’n dymuno ei ffonio, ewch i dudalen berthnasol GOV.UK ar gyfer carchardai unigol.

Cam 1: Lawrlwytho a gosod ap

Lawrlwythwch yr ap sy’n cael ei ddefnyddio yn y carchar.

Gallwch lawrlwytho’r ap Prison Video drwy wefan Prison Video ac ap Purple Visits drwy wefan Purple Visits.

Mae’r ddau ap yn rhad ac am ddim ac ar gael hefyd o Google Play neu Apple App Store.

Bydd angen i chi osod yr ap ar eich ffôn neu dabled.

Cam 2: Creu cyfrif yn yr ap ac ychwanegu pawb a fydd ar yr alwad

I greu cyfrif ar y naill ap neu’r llall, bydd angen i chi fod dros 18 oed a chael llun o’ch trwydded yrru, eich pasbort neu ID llun arall a gyhoeddwyd gan y llywodraeth.

Gall gymryd hyd at 24 awr i’ch cyfrif gael ei ddilysu.

Ar ôl dilysu, trefnwch yr alwad: Rhaid i chi gynnwys enwau a dyddiadau geni pawb a fydd ar yr alwad fideo. Bydd angen i chi hefyd lwytho ID i fyny ar gyfer pobl dros 18 oed.

Yn olaf, ychwanegwch enw’r person rydych chi am gael yr alwad fideo gyda nhw fel ‘cyswllt’.

Cam 3: Gwneud cais am alwad fideo

Bydd union broses trefnu galwad yn dibynnu ar y carchar.

Ar gyfer rhai carchardai, byddwch yn gallu dewis dyddiad ac amser posibl yn y 7 diwrnod nesaf yn yr ap. Mewn carchardai eraill, bydd staff yn trefnu dyddiad ac amser yn dilyn cais gan y carcharor.

Y naill ffordd neu’r llall, byddwch yn cael e-bost cadarnhau pan fydd eich galwad fideo wedi cael ei threfnu.

Cam 4: Paratoi ar gyfer galwad fideo

Mae angen cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy arnoch chi. Argymhellir Wi-Fi, ond gallwch hefyd ddefnyddio data symudol 3G neu 4G.

Does dim angen clustffonau ar gyfer yr alwad fideo, ond gall helpu gydag ansawdd y sain.

Cam 5: Cael yr alwad fideo

Dylech agor eich ap cyn amser yr alwad fideo a drefnwyd a bod yn barod i’r alwad ddechrau. Mae amseroedd galwadau yn benodol a does dim modd eu hymestyn.

Bydd galwadau’n cael eu hatal os bydd unrhyw un:

  • sydd heb cofnodi i fod ar yr alwad yn ymddangos ar y camera
  • yn ymddwyn mewn ffordd na fyddai’n briodol ar gyfer ymweliad cymdeithasol â charchar
  • yn ceisio recordio’r alwad neu dynnu sgrinlun

Os bydd galwad yn cael ei rhewi, bydd angen i chi fynd drwy archwiliad diogelwch cyn y gall ddechrau eto.

Awgrymiadau ar gyfer galwad fideo lwyddiannus

Cadw’r camera’n llonydd

Ceisiwch gadw eich ffôn neu’ch tabled mor llonydd â phosibl. Efallai y byddai’n well ei roi yn erbyn rhywbeth.

Golau da a chefndir plaen

Rhaid i chi gael yr alwad mewn man preifat yn hytrach na chaffi neu fan cyhoeddus. Gwnewch yn siŵr bod yr ystafell wedi’i goleuo’n dda. Gall golau anghyson, er enghraifft golau’r haul, amharu ar y ffordd y mae’r system yn adnabod wynebau.

Mae’n well eistedd o flaen wal blaen. Gall lluniau neu batrymau yn y cefndir effeithio ar allu’r camera i ganolbwyntio ar eich wyneb.

Gweld pawb ar yr alwad yn glir

Gwnewch yn siŵr bod modd gweld eich wyneb cyfan – ac wynebau unrhyw bobl ychwanegol – yn glir.

Os oes plant ifanc ar yr alwad, gwnewch yn siŵr eu bod naill ai’n edrych yn uniongyrchol ar y camera neu’n cadw allan o’r llun.

Gellir oedi’r alwad os mai dim ond rhan o wyneb neu gefn pen y gellir ei weld.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 July 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. Updated to reflect the change to free video calls

  3. Secure video calls information has been updated.

  4. Removed a line about a person's face needing to be in view of the camera at all times so the call doesn't pause. Linked to the prison directory instead of listing all prisons where calls are available.

  5. Added more prisons where video calls are available.

  6. Added to the list of prisons where secure video calls are available

  7. Added prisons where video calls are available

  8. Updated list of prisons offering secure video calls

  9. First published.

Sign up for emails or print this page