Rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu, trosglwyddo neu brynu cerbyd

Wedi gwerthu eich cerbyd i unigolyn preifat neu fusnes

Mae arnoch angen y rhif cyfeirnod 11 digid o’r llyfr log (V5CW) diweddaraf.

  1. Rhowch y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o’r llyfr log i’r prynwr.

  2. Rhowch wybod i DVLA eich bod wedi gwerthu’r cerbyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

  3. Dinistriwch weddill y llyfr log.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os yw’r prynwr yn cofrestru’r cerbyd dramor. Mae hyn yn cynnwys Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw ac Iwerddon. Mae angen ichi lenwi’r adran ‘allforio parhaol’ yn lle.

Rhoi gwybod i DVLA

Gallwch gymryd y rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych eisiau ei gadw. Mae’n rhaid ichi wneud hyn cyn rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu eich cerbyd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd eich treth cerbyd yn cael ei chanslo gan DVLA unwaith y byddwch yn rhoi gwybod iddynt nad ydych yn berchen ar eich cerbyd bellach.

Byddwch yn derbyn:

  • cadarnhad e-bost (os wnaethoch roi eich cyfeiriad e-bost)
  • llythyr yn cadarnhau nad ydych bellach yn geidwad y cerbyd
  • siec ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sy’n weddill ar eich treth cerbyd, wedi eu cyfrifo o’r diwrnod mae DVLA yn cael eich gwybodaeth - os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd hyn yn cael ei ganslo’n awtomatig

Mae’n rhaid i’r prynwr drethu’r cerbyd cyn ei yrru, neu ddatgan ei fod oddi ar y ffordd (HOS). Ni fydd y dreth yn trosglwyddo pan werthir y cerbyd.

Dylai’r ceidwad newydd gael:

  • cadarnhad e-bost (os wnaethoch roi ei gyfeiriad e-bost)
  • llyfr log newydd o fewn 5 diwrnod gwaith

Ffyrdd eraill o wneud cais

Llenwch y llyfr log ac anfonwch i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Os nad oes gennych lyfr log

Rhaid ichi ysgrifennu i DVLA gyda’r canlynol:

  • eich enw a chyfeiriad
  • y rhif cofrestru cerbyd
  • y gwneuthuriad a model
  • union ddyddiad y gwerthiant
  • enw a chyfeiriad y ceidwad newydd

Gall eich hysbysiad gael ei wrthod os nad ydych yn darparu’r holl wybodaeth yma. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar unrhyw ad-daliad treth cerbyd sy’n ddyledus ichi.

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Eich atebion

Dechrau eto

1. Ydych chi’n fasnachwr modur?
Nac ydw
Newid 1. Ydych chi’n fasnachwr modur?
2. Beth ydych wedi gwneud gyda’ch cerbyd?
Wedi ei werthu
Newid 2. Beth ydych wedi gwneud gyda’ch cerbyd?
3. A wnaethoch chi werthu’r cerbyd yn breifat, neu i fasnachwr modur?
Wedi ei werthu yn breifat i unigolyn neu fusnes
Newid 3. A wnaethoch chi werthu’r cerbyd yn breifat, neu i fasnachwr modur?