Cyflyrau meddygol, anableddau a gyrru

Sgipio cynnwys

Beth sy'n digwydd ar ôl ichi ddweud wrth DVLA

Byddwch yn cael penderfyniad drwy lythyr. Efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth ar eich cais gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn dibynnu ar eich cyflwr.

Efallai y bydd DVLA yn:

  • cysylltu â’ch meddyg neu’ch ymgynghorydd
  • trefnu ichi gael archwiliad
  • gofyn ichi sefyll asesiad gyrru, prawf golwg neu brawf gyrru

Efallai y bydd eich cais yn cymryd mwy o amser nag arfer os oes angen ei gyfeirio at feddyg (oni bai eich bod yn gwneud cais am drwydded fws neu lori).

Fel arfer gallwch barhau i yrru tra bod DVLA yn ystyried eich cais.

Os ydych wedi dweud wrth DVLA am gyflwr wrth wneud cais i adnewyddu eich trwydded, dilynwch y canllawiau ar yrru sydd yn y ffurflen.

Cysylltwch â DVLA os oes angen cyngor arnoch neu i wirio cynnydd eich achos.