Cyflyrau meddygol, anableddau a gyrru
Adnewyddu neu ailymgeisio am eich trwydded
Mae sut y byddwch yn ailymgeisio am eich trwydded neu’n ei hadnewyddu yn dibynnu ar os oedd rhaid ichi ildio eich trwydded, neu os oes gennych drwydded tymor byr.
Mae gennych drwydded tymor byr
Bydd DVLA yn anfon llythyr adnewyddu atoch 90 diwrnod cyn y bydd eich trwydded 1, 2, 3 neu 5 mlynedd yn dod i ben.
Adnewyddwch eich trwydded ar-lein, neu anfon y nodyn atgoffa adnewyddu nôl drwy’r post.
Rydych wedi ildio eich trwydded a rhoi’r gorau i yrru
Mae’r llythyr y mae DVLA yn ei anfon atoch pan fydd eich trwydded yn cael ei chymryd i ffwrdd yn dweud wrthych os oes rhaid ichi aros cyn y gallwch ailymgeisio.
Rhaid ichi wirio gyda’ch meddyg os ydych yn ffit i yrru cyn ichi ailymgeisio am eich trwydded, os cafodd ei chymryd i ffwrdd oherwydd cyflwr meddygol.