Cyflyrau meddygol, anableddau a gyrru
Dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol neu anabledd
Rhaid ichi ddweud wrth DVLA os oes gennych drwydded yrru ac mae’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn datblygu cyflwr meddygol neu anabledd ‘hysbysadwy’
- mae cyflwr neu anabledd wedi gwaethygu ers ichi gael eich trwydded
Mae cyflyrau hysbysadwy yn unrhyw beth a allai effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Gallant gynnwys:
- diabetes neu gymryd inswlin
- syncope (llewygu)
- cyflyrau ar y galon (gan gynnwys ffibriliad atrïaidd a rheolyddion calon)
- apnoea cwsg
- epilepsi
- strociau
- glawcoma
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i ddweud wrth DVLA
Gwiriwch os oes angen ichi ddweud wrth DVLA am eich cyflwr i ddod o hyd i’r ffurflenni neu’r holiaduron sydd eu hangen arnoch. Mae’r cyfeiriad sydd ei angen arnoch ar y ffurflenni.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon rhaid ichi gysylltu â’r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA).
Mae gwahanol daflenni ar gyfer gwahanol gyflyrau ac anableddau.
Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud.
Gallech gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA am gyflwr a allai effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Gallech hefyd gael eich erlyn os byddwch yn cael damwain.
Ildio eich trwydded
Rhaid ichi ildio eich trwydded i DVLA os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:
- mae eich meddyg yn dweud wrthych am roi’r gorau i yrru am 3 mis neu fwy
- mae eich cyflwr meddygol yn effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel ac yn para am 3 mis neu fwy
- nad ydych yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer gyrru oherwydd eich cyflwr meddygol
Gallwch wneud cais i gael eich trwydded yn ôl pan fyddwch yn bodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru eto.
Trwydded gyntaf neu adnewyddu os ydych yn 70 oed neu’n hŷn
Rhaid ichi hefyd ddweud wrth DVLA am gyflyrau hysbysadwy os ydych:
Gofynnir ichi am y wybodaeth hon yn eich ffurflen gais. Nid oes angen ichi gysylltu â DVLA ar wahân.