Beth fydd DVLA yn ei benderfynu

Bydd DVLA yn asesu eich cyflwr meddygol neu anabledd ac yn penderfynu os:

  • oes angen ichi gael trwydded yrru newydd
  • ydych yn gallu cael trwydded fyrrach - am 1, 2 , 3 neu 5 mlynedd
  • oes angen ichi addasu eich car drwy osod dulliau rheoli arbennig
  • oes rhaid ichi roi’r gorau i yrru ac ildio eich trwydded yrru

Mae angen ichi addasu eich cerbyd

Os dywedwyd wrthych fod yn rhaid ichi addasu eich car, byddwch yn cael asesiad annibynnol o’ch anghenion addasu drwy Driving Mobility.

Cael gwybod mwy am addasu eich cerbyd a ble i gael rheolyddion arbennig wedi’u gosod drwy’r Sefydliad Ymchwil i Ddefnyddwyr Anabl.

Rhaid ichi roi’r gorau i yrru

Bydd DVLA yn anfon llythyr atoch yn dweud bod yn rhaid ichi roi’r gorau i yrru. Byddwch yn cael rheswm meddygol pam, a byddwch yn cael gwybod os a phryd y gallwch ailymgeisio am eich trwydded.

Os dywedir wrthych am roi’r gorau i yrru, gallwch:

  • anfon rhagor o dystiolaeth feddygol i DVLA
  • ailymgeisio am eich trwydded yrru (os yw eich llythyr yn dweud y gallwch ailymgeisio)
  • apelio yn erbyn y penderfyniad

Anfon rhagor o dystiolaeth feddygol

Rhaid ichi roi wybodaeth berthnasol na chafodd ei chynnwys yn yr asesiad gwreiddiol.

Rhaid ichi hefyd gynnwys:

  • prawf eich bod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer gyrru (eglurir y rhain yn y llythyr penderfyniad a anfonwyd atoch gan DVLA)
  • y cyfeirnod o’ch llythyr penderfyniad

Os nad ydych yn siŵr pa wybodaeth feddygol i’w hanfon i DVLA, gwiriwch gyda meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Tystiolaeth Bellach DM
Cefnogaeth DMI
D5
DVLA
SA99 1DL

Ailymgeisio am eich trwydded yrru

Bydd eich llythyr yn dweud wrthych os oes angen ichi aros am gyfnod cyn cael trwydded newydd. Yna gallwch ailymgeisio 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod hwn.

Ailymgeisio am eich trwydded yrru yn dilyn cyflwr meddygol.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Yng Nghymru a Lloegr, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad drwy gysylltu â’ch llys ynadon lleol o fewn 6 mis. Rhaid ichi ddweud wrth DVLA yn ysgrifenedig os ydych yn dewis apelio.

Yn yr Alban, apeliwch yn erbyn y penderfyniad drwy gysylltu â’ch llys siryf lleol o fewn 21 diwrnod. Hefyd, rhaid ichi ddweud wrth DVLA o fewn 21 diwrnod os ydych yn apelio.

Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol cyn ichi apelio - efallai y byddwch yn gallu cael cymorth cyfreithiol i’w dalu amdano.

Cysylltu â DVLA yng Nghymru a Lloegr

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Grŵp Meddygol Gyrwyr
Abertawe
SA99 1DF

Cysylltu â DVLA yn yr Alban

Rhif ffôn: 0300 790 6806
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm
Dydd Sadwrn, 8am i 2pm
Cael gwybod am gostau galwadau

Gwneud cwyn

Gallwch wneud cwyn os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth a gewch gan DVLA.