Hawlio budd-daliadau os ydych yn byw, symud neu’n teithio dramor
Credyd Cynhwysol
Credyd Cynhwysol
Os ewch dramor, gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am fis.
Mae’n rhaid i chi:
- fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn mynd dramor
- parhau i fod yn gymwys ar ei gyfer tra byddwch dramor
- dywedwch wrth eich anogwr gwaith eich bod yn mynd
Os bydd perthynas agos yn marw tra’ch bod dramor ac na fyddai’n rhesymol i chi ddod yn ôl i’r DU, gallwch gael Credyd Cynhwysol am fis arall.
Ni allwch gael Credyd Cynhwysol os ydych yn symud dramor yn barhaol.
Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych eisoes dramor.
Mynd dramor am driniaeth feddygol
Gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am hyd at 6 mis os:
- ydych yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol
- mae eich partner neu blentyn yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol a’ch bod yn mynd gyda nhw
Os ydych chi’n forwr neu’n weithiwr silff cyfandirol
Os oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn mynd dramor, gallwch barhau i’w gael am hyd at 6 mis.